|
Cliciwch ar y faner i weld y fersiwn
Saesneg .
|
Yn
ddiweddar mae G. Purchase Adeiladwaith Cyf. wedi noddi ystafell
gyfarfod yng Nghanolfan Gymunedol Ffordd Llundain yng Nghaergybi.
Golyga hyn ariannu adnewyddiad llwyr un o’r ystafelloedd yn yr
adeilad drws nesaf I’r Ganolfan Gymuned, a brynwyd ym mis Ionawr
2009 gydag arian o raglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth
brynu ac adnewyddu’r adeilad yn gyfangwbl, sydd yn awr yn
estyniad I’r Ganolfan Gymunedol a agorwyd yn 2007, mae mwy o
gyfleusterau ar gael i drigolion lleol a busnesau hefyd. Mae hyn
yn cynnwys Ystafell T.G., Ystafell Gerdd , Campfa, Caffi ac
ystafelloedd cynadledda gyda’r holl gyfarpar.
Mae G. Purchase Adeiladwaith, sydd wedi eu lleoli ym
Mharc Busnes Penrhos ond hanner milltir i ffwrdd o’r Ganolfan,
yn falch o gael helpu gyda’r datblygiad o adeilad sydd gymaint o
gaffaeliad i’r gymuned, a byddant yn gwneud defnydd o’r
cymwysterau eu hunain wrth ymgynghori â thenantiaid yn y dyfodol
agos.
|
|